Paul Dummett
Fe fydd Paul Dummett yn methu gêm ragbrofol Cymru yn erbyn Israel ym mis Mawrth ar ôl i Newcastle gadarnhau fod yr amddiffynnwr wedi cael anaf i’w ben-glin.

Dywedodd rheolwr dros dro Newcastle, John Carver, nad oedd angen llawdriniaeth ar Dummett ond y byddai’r anaf yn ei gadw allan am 10 i 12 wythnos.

Gallai hynny olygu fod yr amddiffynnwr yn methu gweddill y tymor, ond fe ddylai fod yn ffit ar gyfer gêm ragbrofol Cymru yn erbyn Gwlad Belg ym mis Mehefin.

Fe enillodd Dummett ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn yr Iseldiroedd mewn gêm gyfeillgar yn haf 2014.

Anafiadau eraill

Nid Dummett yw’r unig chwaraewr fydd methu teithio i Israel ar gyfer y gêm ragbrofol Ewro 2016 hollbwysig ar 28 Mawrth.

Bydd chwaraewr canol cae Wigan Emyr Huws hefyd allan o’r gêm honno gydag anaf difrifol i’w bigwrn, ac mae’r amddiffynnwr James Chester yn wynebu ras yn erbyn y cloc i wella ar ôl datgymalu ei ysgwydd.

Mae Aaron Ramsey hefyd allan ag anaf i linyn y gâr ar hyn o bryd, ond mae disgwyl y bydd e nôl yn chwarae o fewn ychydig wythnosau.

Mae Cymru’n ail yn y grŵp rhagbrofol ar hyn o bryd, gydag Israel yn gyntaf, Cyprus yn drydydd a Gwlad Belg yn bedwerydd.