Mae’r Scarlets wedi cadarnhau eu bod nhw wedi cytuno i arwyddo’r asgellwr DTH van der Merwe o Glasgow ar ddiwedd y tymor.

Cafodd Daniel Tailliferre Hauman van der Merwe ei eni yn Ne Affrica ond mae bellach yn cynrychioli Canada ar y llwyfan rhyngwladol.

Fe fydd yr asgellwr 28 oed yn symud i Barc y Scarlets ar gyfer tymor 2015/16, ar ôl chwe blynedd yn yr Alban.

Mae’n un o hoelion wyth tîm Glasgow ar hyn o bryd gan arwain eu rhestr ceisiau, ac fe sgoriodd yn erbyn y Scarlets yn gynharach eleni.

Profiad

Fe bwysleisiodd prif hyfforddwr y Scarlets Wayne Pivac pa mor falch oedd e i groesawu van der Merwe i’r garfan.

“Mae ei record e’n siarad dros ei hun – mae e’n amddiffynnwr cadarn, gyda gallu naturiol i greu a sgorio ceisiau ac mae cael rhywun sydd yn gallu gwneud hynny yn eich tîm yn amhrisiadwy,” meddai Pivac.

“Bydd DTH yn ychwanegu profiad rhyngwladol ac aeddfedrwydd i’n llinell ôl gymharol amhrofiadol ac fe fydd hi’n grêt cael llais profiadol arall o gwmpas i helpu’r bois ifanc ddod drwyddo.”

Dywedodd van der Merwe ei fod bellach yn barod am sialens newydd ar ôl chwe blynedd gyda Glasgow.

“Rydw i wedi clywed pethau gwych am y Scarlets a’r cyfleusterau ym Mharc y Scarlets a dw i’n edrych ymlaen at symud i Orllewin Cymru,” meddai’r asgellwr.

“Mae gan y Scarlets draddodiad o rygbi cyffrous ac mae ganddyn nhw olwyr gwych fel Regan King a Scott Williams, ac fe fydd hi’n grêt gweithio gyda Stephen Jones sydd yn dychwelyd fel hyfforddwr yr olwyr.”