Mae’r Dreigiau wedi cyhoeddi fod dau o’u blaenasgellwyr, Lewis Evans a Nic Cudd, wedi arwyddo cytundebau newydd i aros gyda’r rhanbarth.

Mae’r ddau chwaraewr wedi cynrychioli’r rhanbarth yn gyson y tymor hwn gan chwarae dros 20 o weithiau’r un.

Daeth Evans drwy system ieuenctid y rhanbarth gan chwarae dros y Dreigiau am y tro cyntaf yn 2006, ac mae bellach wedi gwisgo’r crys 160 o weithiau.

“Rydw i mor hapus o fod wedi sortio hyn mas fel fy mod i’n gallu canolbwyntio’n llwyr ar fy rygbi,” meddai Lewis Evans.

“Rydw i’n fachgen lleol sydd yn mwynhau chwarae dros fy rhanbarth gartref a nawr fe allai wneud hynny am ddwy flynedd arall.”

Dywedodd Nic Cudd, sydd chwarae dros 60 o weithiau dros y Dreigiau ers symud o’r Scarlets yn 2012, ei fod yn gobeithio gweld y rhanbarth yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf.

“Rydw i’n teimlo fod fy ngêm i wedi gwella lot yn y ddwy flynedd diwethaf a dw i’n edrych ymlaen at barhau i wthio fy hunan i wella,” meddai Nic Cudd.

“Rydyn ni i gyd yn teimlo bod rhywbeth arbennig ar y gweill i ni ac rydw i’n falch o fod yn rhan ohoni.”