Mae’r Cymro Matthew Stevens wedi curo Ronnie O’Sullivan yn nhrydedd rownd Pencampwriaeth Agored Cymru yng Nghaerdydd.
Cipiodd Stevens y fuddugoliaeth o 4-3, gan faeddu’r Sais am y tro cyntaf ers 12 o flynyddoedd.
Aeth O’Sullivan ddwy ffrâm ar y blaen gyda 57 yn y gyntaf, cyn cipio’r ail o drwch blewyn.
Ond tarodd Stevens yn ôl gan ennill y drydedd, cyn sgorio 80 yn y bedwaredd i unioni’r sgôr, 2-2.
O’Sullivan enillodd y bumed ffrâm i fynd ar y blaen o 3-2, ond y Cymro gipiodd y ddwy ffrâm olaf i selio’r fuddugoliaeth o 4-3.
Bydd Stevens yn herio naill ai Ashley Carty neu Marco Fu yn yr 16 olaf.
Bydd y ddau Gymro, Mark Williams a Jamie Jones yn herio’i gilydd am 7 o’r gloch heno.