Mae o leiaf 20 o swyddogion heddlu wedi cael eu lladd ac wyth wedi’u hanafu ar ôl i hunan fomwyr ymosod ar swyddfa heddlu yn Afghanistan.
Y Taliban sydd wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad ym mhrif ddinas Logar, Pul-i-Alam sydd tua 50 milltir i’r dwyrain o Kabul. Roedd yr ymosodwyr wedi eu gwisgo mewn gwisg heddlu er mwyn cael mynediad i’r adeilad.
Fe wnaeth yr hunan fomiwr cyntaf ffrwydro bom wrth giatiau’r swyddfa gyda sawl ffrwydrad arall yn digwydd y tu mewn i’r adeilad.
Cafodd un bom ei ffrwydro wrth i swyddogion heddlu ddod at ei gilydd i fwyta eu cinio, yn ôl adroddiadau.