Ysgrifennydd Tramor Prydain, Philip Hammond
Mae’r Aifft wedi cynnal ymosodiadau o’r awyr ar dargedau’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Libya ar ôl i grŵp eithafol gyhoeddi fideo sy’n dangos 21 o Gristnogion o’r Aifft yn cael eu dienyddio.

Cafodd y grŵp eu cadw’n wystlon gan eithafwyr, sy’n gefnogol i IS, yn Libya ym mis Rhagfyr ac Ionawr.

Dywedodd llefarydd ar ran y lluoedd arfog yn Cairo bod awyrennau rhyfel wedi targedu gwersylloedd hyfforddi a storfeydd arfau’r eithafwyr “i ddial” am y llofruddiaethau.

Dyma’r tro cyntaf i’r Aifft gydnabod yn gyhoeddus ei bod wedi cymryd camau milwrol yn Libya.

Mae’r Aifft wedi cyhoeddi saith diwrnod o alaru yn dilyn y llofruddiaethau.

‘Barbaraidd’

Yn y cyfamser mae Ysgrifennydd Tramor Prydain, Philip Hammond, wedi beirniadu’r llofruddiaethau’n chwyrn gan ddweud bod ei feddyliau gyda theuluoedd y rhai gafodd eu lladd.

“Mae gweithredoedd barbaraidd fel hyn yn ein gwneud yn fwy penderfynol i weithio gyda’n partneriaid i atal y bygythiad brawychol yn Libya a’r rhanbarth.

“Ni ddylid caniatáu i weithredoedd brawychol danseilio adferiad gwleidyddol Libya.

“Rydym yn parhau’n gefnogol i ymdrechion y Cenhedloedd Unedig i sefydlu llywodraeth unedig yn Libya. Nid oes lle i’r rhai hynny sy’n gefnogol i frawychiaeth yn y broses,” meddai.

Mae Libya wedi wynebu cyfnod ansefydlog ers i Muammar Gaddafi gael ei ddisodli yn 2011.