Mae gyrwr wedi’i ladd, a gweithiwr dyngarol oedd yn gweithio gyda dioddefwyr polio wedi’i anafu gan ddyn arfog yng ngogledd-ddwyrain Pacistan.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn ardal Khyber, ac y ffin ag Afghanistan.

Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad yn syth, er bod eithafwyr Islamaidd wedi gwneud pethau tebyg yn ystod ymosodiadau blaenorol.

Fe ddaw’r ymosdiad diweddara’ ar drothwy ymgyrch fawr i geisio ymladd polio. Mae gwrthryfelwyr yn gwrthwynebu’r ymgych, gan hawlio fod y brechiad yn gwneud niwed i blant.