Mae gwerth £8 miliwn o ganabis wedi cael ei ddarganfod gan swyddogion mewn lori yng nghanol Lloegr.

Y gred yw bod 1.3 tunnell o’r cyffur wedi cael ei ddarganfod ar ôl cyrraedd North Shields o Ijmuiden yn yr Iseldiroedd ddydd Sadwrn.

Cafodd dyn 35 oed o’r Iseldiroedd ei arestio ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa er mwyn i’r heddlu fedru ymchwilio ymhellach.

Yn ogystal â’r canabis, roedd cyffuriau herbal yng nghefn y lori hefyd.

“Mae’r gwaith gan ein swyddogion yn golygu bod swm sylweddol o gyffuriau wedi ei gadw oddi ar y strydoedd,” meddai cyfarwyddwr cynorthwyol y Border Force yn y gogledd ddwyrain.