Angela Merkel
Fe fydd arweinwyr gwleidyddol y byd yn dod ynghyd yr wythnos hon i drafod yr argyfwng yn yr Iwcrain.

Dywedodd llefarydd ar ran Canghellor yr Almaen, Angela Merkel fod disgwyl iddi drefnu Uwchgynhadledd ag Arlywydd Rwsia Vladimir Putin, Arlywydd yr Iwcrain Petro Poroshenko ac Arlywydd Ffrainc Francois Hollande ym mhrifddinas Belarws, Minsk ddydd Mercher.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn trafodaethau y bore ma ynghylch cytundeb heddwch rhwng yr Iwcrain a Rwsia.

Bydd y trefniadau ar gyfer yr Uwchgynhadledd yn cael eu cwblhau ym Merlin yfory.