Peter Greste yn 2008
Mae teulu newyddiadurwr Al-Jazeera, Peter Greste,  wedi galw ar yr Aifft i rydau dau o’i gyd-weithwyr eraill sy’n parhau dan glo.

Cafodd Peter Greste, o Awstralia, a chyn newyddiadurwr gyda’r BBC, ei ryddhau o’r carchar yn yr Aifft ar ôl treulio 400 diwrnod dan glo.

Roedd wedi hedfan i Giprys ddoe ar ôl i’r arlywydd gyhoeddi ei fod am gael ei anfon yn ôl i Awstralia.

Ond mae Greste ac ymgyrchwyr hawliau dynol yn galw ar yr Aifft i ryddhau’r ddau newyddiadurwr arall gafodd eu carcharu, Mohamed Fahmy a Baher Mohamed.

Cafodd y tri eu harestio ym mis Rhagfyr 2013 ar ôl cael eu cyhuddo o gydweithio â’r Frawdoliaeth Fwslimaidd i geisio cipio grym oddi ar yr Arlywydd Mohammed Morsi.

Roedd y tri wedi gwadu’r cyhuddiadau yn eu herbyn gan fynnu eu bod yn gwneud eu gwaith yn ystod cyfnod o wrthdaro treisgar.

Dywedodd brawd Peter Greste, Andrew, bod y newyddiadurwr yn teimlo rhyddhad mawr o gael ei ryddhau ond ei fod yn bryderus iawn am ei gydweithwyr.