Fe fydd safleoedd glanio hofrenyddion ledled Cymru yn cael eu gwella fel eu bod ar gael ddydd a nos i feddygon awyr, fel rhan o wasanaeth newydd EMRTS Cymru.

Mae gan nifer o ysbytai yng Nghymru safleoedd glanio hofrenyddion ond dim ond ar dri o’r rhain y mae modd glanio ddydd a nos ar hyn o bryd – Ysbyty Gwynedd, Bangor, Ysbyty Glan Clwyd, y Rhyl, ac Ysbyty Treforys, Abertawe.

O fis Ebrill ymlaen, bydd modd glanio hofrenyddion gyda’r nos ar 10 safle ychwanegol. Fe fydd peilotiaid yr hofrenyddion yn dibynnu ar dimau gwirfoddol neu dimau ymateb ysbytai i ddefnyddio goleuadau dros dro pan fydd hofrennydd ar ei ffordd.

Yn ddiweddarach, fe fydd y Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething yn cyhoeddi buddsoddiad o £180,000 ar gyfer y gwasanaeth.

Safleoedd

Y safleoedd fydd yn elwa o’r cyllid fydd:

  • Ysbyty Bronglais, Aberystwyth – caeau chwarae Ysgol Penglais, Waunfawr, Aberystwyth;
  • Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd – glanfa bresennol yr ysbyty/Maes Awyr Hwlffordd;
  • Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin – glanfa bresennol oddi ar y safle;
  • Ysbyty Singleton, Abertawe – cae y tu ôl i Orsaf Dân Singleton;
  • Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd – glanfa bresennol oddi ar y safle;
  • Ysbyty Nevill Hall, y Fenni – glanfa bresennol oddi ar y safle;
  • Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant – glanfa bresennol oddi ar y safle;
  • Ysbyty’r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful – glanfa bresennol yr ysbyty;
  • Ysbyty Maelor Wrecsam – angen glanfa newydd i hofrenyddion lanio gyda’r nos;
  • Safle yn Aberhonddu ar gyfer Powys – Ysgol Frwydro’r Troedfilwyr, cyfleuster Dering Lines y Weinyddiaeth Amddiffyn, Aberhonddu.

Mae 27 o safleoedd eraill yn cael eu harchwilio ar draws Cymru fel mannau ymgasglu ar gyfer hofrenyddion a cherbydau ar y ddaear.

Cleifion mwyaf sâl

“Ein nod yw bod y cleifion mwyaf sâl ac sydd â’r anafiadau mwyaf difrifol yn cael eu trin gan y clinigwyr gorau, sy’n darparu triniaeth o’r radd flaenaf i achub eu bywydau,” meddai’r Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething.

“Yn y dyfodol, bydd y gwasanaethau tra arbenigol hyn yn cael eu darparu mewn llai o ysbytai, ond gyda chefnogaeth rhwydwaith o ysbytai lleol, yn cynnig gofal brys lleol i bobl.

“Bydd gwasanaeth EMRTS Cymru yn ein galluogi i gynnig y gofal gorau posibl i’r cleifion sydd fwyaf difrifol wael. Bydd yn golygu bod cleifion – yn enwedig y rheini yn y rhannau mwy diarffordd a gwledig o’r wlad – yn cael eu trin gan ymgynghorwyr medrus ym maes gofal brys neu ddwys, ac sy’n gallu cynnig gofal critigol arbenigol sy’n achub eu bywydau.”