Mae pensiynwr wedi marw ar ôl iddo syrthio oddi ar gwch ym Mhenarth ym Mro Morgannwg ddoe.
Roedd y dyn 72 oed ar daith hwylio pan syrthiodd oddi ar y cwch.
Cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw oddeutu 12.15 prynhawn dydd Sul.
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd mewn ambiwlans, ond bu farw’n ddiweddarach.
Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i’r digwyddiad.
Credir fod y dyn yn dod o ardal Gwent ond nid yw’r heddlu wedi cyhoeddi ei enw hyd yn hyn. Mae’n debyg ei fod wedi bod ymhlith criw o wyth o bobl ar fwrdd y cwch pan ddigwyddodd y ddamwain.