Y peilot Mu'ath al-Kaseasbeh o'r Iorddonen
Mae uwch swyddogion o’r Iorddonen wedi dweud eu bod yn barod i ryddhau carcharor o Irac os yw mudiad IS yn rhyddhau peilot o’r Iorddonen sy’n cael ei gadw’n wystl.
Dywedodd y gweinidog Mohammed al-Momani bod yr Iorddonen “yn barod i ryddhau’r carcharor o Irac” os yw’r peilot, Mu’ath al-Kaseasbeh, yn cael ei ryddhau yn ddianaf.
Daw’r cynnig 24 awr cyn i fudiad eithafol IS ddweud y bydden nhw’n lladd Mu’ath al-Kaseasbeh yn ogystal â gwystl o Japan, Kenji Goto.
Mae mam Kenji Goto wedi apelio ar brif weinidog Japan, Shinzo Abe, i achub ei mab drwy gyd-weithio hefo llywodraeth yr Iorddonen.
Fe gafodd Sajida al-Rishawi o Irac ei dedfrydu i farwolaeth am ei rhan mewn ymosodiad brawychol ar westy yn 2005 a laddodd 60 o bobol.