Ched Evans
Mae cyn chwaraewr pel-droed Sheffield United a Chymru, Ched Evans, wedi cyflwyno “tystiolaeth newydd” mae’n gobeithio fydd yn gwyrdroi ei ddyfarniad am dreisio dynes.

Mae datganiad ar ei wefan yn dweud bod y dystiolaeth wedi’i chyflwyno i’r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol (CCRC) ar ei ran ddydd Gwener.

Mae’n honni bod y manylion yn “cryfhau” ei achos.

Cafodd Evans, 26, ei ryddhau o’r carchar y llynedd ar ôl treulio hanner ei ddedfryd o bum mlynedd dan glo am dreisio merch 19 oed mewn gwesty yn Y Rhyl yn 2012.

Mae’n parhau i fod ar drwydded.

Cafodd apêl gynharach yn erbyn ei ddyfarniad ei wrthod yn y Llys Apêl yn 2012.

Mae Evans wedi ceisio ail-gydio yn ei yrfa ers cael ei ryddhau o’r carchar, ond er gwaethaf diddordeb gan Sheffield United ac Oldham Athletic, mae’r gwrthwynebiad gan y cyhoedd wedi atal ei ymdrechion.

Mae llefarydd ar ran CCRC wedi cadarnhau eu bod nhw wedi derbyn tystiolaeth ychwanegol yn yr achos.