Warren Gatland
Mae Warren Gatland wedi rhybuddio’i garfan i beidio â theimlo’n orhyderus yn dilyn rhestr hir o anafiadau gan garfan Lloegr.

Bellach mae’r maswr Owen Farrell wedi ymuno â Joe Launchbury, Ben Morgan a Manu Tuilagi ar restr anafiadau carfan Lloegr, ac mae pryder o hyd ynglŷn â Brad Barritt, Kyle Eastmond, Geoff Parling a Tom Wood.

Bydd Cymru’n herio Lloegr wythnos i nos Wener yn Stadiwm y Mileniwm yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Ond fe fynnodd Gatland fod rhaid i’r garfan gadw eu ffocws ac anwybyddu’r newyddion o Loegr, gan rybuddio y gallai teimlo’n orhyderus achosi gwendid seicolegol cyn y gêm.

“Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr fod ein sylw ni ddim yn cael ei dynnu gan yr anafiadau mae Lloegr wedi cael,” meddai Gatland heddiw.

Tipyn o hanes

Colli fu hanes Cymru yn eu gêm ddiwethaf yn erbyn y Saeson o 29-18, a olygodd bencampwriaeth ddigon siomedig i’r crysau coch.

Ond fe fydd tîm Gatland yn gobeithio ailadrodd eu perfformiad campus ddwy flynedd yn ôl yn Stadiwm y Mileniwm pan enillodd Cymru o 30-3 i gipio Pencampwriaeth y Chwe Gwlad oddi ar y Saeson yng ngêm olaf yr ymgyrch.

Ac mae Gatland yn disgwyl i’r gêm fod yn anodd i’r ddau dîm yng Nghaerdydd nos Wener nesaf.

“Mi fydd hi’n frwydr galed iawn. Fe gollon ni’r llynedd a naethon ni ddim chwarae cystal ag arfer, er mi roedd yna gyfleoedd ar adegau i gipio’r fuddugoliaeth,” meddai’r hyfforddwr.

“Mae disgwyliadau enfawr gan y ddau dîm yn bendant. Mae gêm gyntaf yr ymgyrch fel arfer yn penderfynu ffawd y tîm.

“Os ydyn ni’n ennill, mae cyfle euraidd i fynd amdani yn y bencampwriaeth. Os ydyn ni’n colli, yna gallwch ffeindio eich hunan ar waelod y tabl yn eithaf sydyn.”

Ffefrynnau am y Bencampwriaeth

Mae disgwyl i Loegr, Iwerddon a Chymru fod y ffefrynnau ar gyfer y bencampwriaeth unwaith yn rhagor eleni.

Iwerddon fydd y ffefrynnau mwyaf ar ôl ennill y bencampwriaeth y llynedd ac oherwydd eu perfformiadau rhagorol yng ngemau’r hydref yn erbyn Awstralia a De Affrica.

Ac mae Gatland yn disgwyl i’r gemau dros y misoedd nesaf fod hyd yn oed yn fwy cystadleuol na’r rhai yn erbyn timau hemisffer y de yn yr hydref.

“Ennill yw holl hanfod y Chwe Gwlad. Mae gemau’r hydref yn wahanol oherwydd ei fod yn gyfle i arbrofi chwaraewyr, ond mae ennill y Chwe Gwlad yn dod a statws a bri i Gymru,” meddai Gatland.

“Mae yna lawer o bwysau ar Loegr i wneud yn dda, gyda Ffrainc heb ennill y bencampwriaeth ers 2010. Mae Vern Cotter yn adeiladu tîm cryf yn yr Alban ac mae gan yr Eidal dair gêm gartref.

“Mae’n bwysig iawn dechrau’n dda ac ennill gemau er mwyn ennill hyder cyn Cwpan Rygbi’r Byd ymhen naw mis.”