Gareth Bale
Mae Gareth Bale wedi mynnu ei fod yn hapus iawn yn Real Madrid gan wfftio’r honiadau ei fod ar ei ffordd i Manchester United mewn cyfweliad radio.

Roedd sôn yn ddiweddar fod y Cymro wedi cael ei gysylltu â Manchester United, gyda’r golwr David de Gea yn symud i’r cyfeiriad arall.

Mae cytundeb Bale gyda Real yn para hyd nes 2019, ac fe ddywedodd y Cymro wrth orsaf radio Cadena Sen ei fod yn gobeithio parhau â’i yrfa ym Madrid yn y blynyddoedd i’w ddod.

Dywedodd hefyd ei fod yn falch iawn o gael chwarae dros Gymru, er i’r cyflwynydd radio holi a oedd erioed wedi ystyried chwarae pêl-droed rhyngwladol dros Loegr.

‘Cefnogwyr Real yn wych’

Er gwaetha’r amheuon o ddrwgdeimlad rhwng Bale a Ronaldo yn y wasg, ac anhapusrwydd honedig y cefnogwyr fod Bale yn hunanol ar y bêl, mae’r Cymro wedi mynnu ei fod yn mwynhau chwarae dros y clwb.

“Mae gen i ddigon o flynyddoedd yn weddill ar fy nghytundeb, ac mae’r angerdd mae’r cefnogwyr yn ei ddangos yn wych. Rydw i wrth fy modd yn chwarae gartref yn y Bernabeu,” meddai Bale.

“Rydw i’n gobeithio gallu adeiladu ar yr hyn rydw i wedi llwyddo i’w wneud gan obeithio dangos beth allai wneud ar y cae yn ogystal ag ennill mwy o dlysau.”

Mae Bale yn gobeithio cymryd cyfrifoldeb dros gymryd ciciau rhydd yn sgil cerdyn coch Ronaldo dros y penwythnos.

Fe sgoriodd y Cymro’r gic o’r smotyn allweddol yn y gêm ddiwethaf ar ôl i Ronaldo gael ei anfon o’r cae.

‘Hynod o falch o fod yn Gymro’

Yn ogystal â thrafod ei yrfa glwb fe anghytunodd Bale â’r awgrym y byddai’n annhebygol y gallai gyrraedd pencampwriaeth ryngwladol gyda thîm cenedlaethol Chymru.

“Na, dwi ddim yn credu hynny. Mae’n uchelgais enfawr i mi. Rydym yn bendant yn mynd amdani’r flwyddyn hon,” meddai Bale wrth gyfeirio at ymgais Cymru i geisio cyrraedd Ewro 2016.

Roedd yr un mor bendant pan ofynnwyd iddo a oedd erioed wedi ystyried chwarae dros yr hen elyn.

“Mae fy Nain yn dod o Loegr, a chefais y dewis, ond rwy’n dod o Gymru, a dw i’n falch iawn o hynny,” mynnodd Bale.

“Mae’n destun balchder cael chwarae dros Gymru, ac rwy’n wastad yn rhoi 100% pan rwy’n rhoi’r crys coch arno.”