Mae’r prop ugain oed Nicky Thomas wedi gwrthod cytundeb newydd gyda’r Gweilch ac wedi penderfynu symud i Gaerloyw i geisio gwneud ei farc y tymor nesaf.
Mewn datganiad dywedodd y Gweilch eu bod nhw’n siomedig fod Thomas heb arwyddo’r cytundeb, ond maen nhw’n dymuno’r gorau iddo ar gyfer y dyfodol.
Mae Thomas wedi dod oddi ar y fainc bum gwaith dros y Gweilch y tymor hwn yng Nghwpan LV a’r Gynghrair Pro12.
Cyn chwarae i’r Gweilch bu’n chwaraewr dros glybiau rygbi Aberafan, Abertawe a Waunarlwydd, ac mae hefyd wedi cynrychioli tîm dan-20 Cymru.