Elfyn Evans
Dywedodd y Cymro Elfyn Evans y gallai fod wedi gwneud yn well yn ras gyntaf tymor Pencampwriaeth Rali’r Byd dros y penwythnos oni bai am gamgymeriadau gwirion ar ei ran ef.
Gorffennodd Evans a’i gyd-yrrwr Daniel Barritt yn seithfed ym Monte Carlo dros y Sul ar ddechrau’r tymor newydd.
Ond fe fynnodd y Cymro ei fod yn hapus â’u cyflymder ac mai dyna oedd un o elfennau cadarnhaol eu penwythnos, er gwaethaf y camgymeriadau o ran y wal a’u dewisiadau o deiars.
“Ar y cyfan roedd y cyflymder wedi bod yn dda iawn, ac rydan ni’n gallu gweld beth aeth o’i le,” meddai Elfyn Evans.
“Dw i’n edrych ymlaen at ddychwelyd i Monte Carlo a gwneud yn iawn am y camgymeriadau’r flwyddyn nesaf.”
Dechreuodd Evans a Barritt yn addawol gan ddal gafael ar y pedwerydd safle, cyn i’r car glipio wal gan roi niwed i gefn y Ford Fiesta.
Er hynny fe lwyddodd y ddau i beidio â gorfod ymddeol yn gynnar o’r ras, gan orffen yn seithfed gyda’r Ffrancwr Sebastien Ogier yn gorffen yn gyntaf.
Fe fydd y rali nesaf ym Mhencampwriaeth y Byd yn Sweden yng nghanol mis Chwefror.