Mae Clwb Pêl-droed Caernarfon wedi cyhoeddi fod y rheolwr presennol, Lee Dixon, yn gadael y clwb ddiwedd y tymor.

Mewn datganiad dywedodd Dixon ei fod yn gadael y clwb mewn sylfaen gref ar gyfer y dyfodol gan ddiolch i’r staff, chwaraewyr, gwirfoddolwyr a chefnogwyr am eu cefnogaeth a’u hymroddiad dros y blynyddoedd y bu’n hyfforddi.

Mae’r Cofis ar y foment yn drydydd yng Nghynghrair Huws Gray Cymru Alliance y gogledd, ac yn gobeithio anelu am ddyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru gyda deg gêm o’u tymor i fynd.

Ers penodi Dixon nôl yn 2012 mae Caernarfon wedi ennill pum tlws gan gynnwys ennill dyrchafiad yn ôl i’r Cymru Alliance.

Fe ddaeth y tîm hefyd yn agos iawn at ennill yn erbyn cewri Uwch Gynghrair Cymru, Y Seintiau Newydd, nôl ym mis Tachwedd yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru.