Stadiwm y Liberty
Mae Abertawe â diddordeb yn arwyddo’r chwaraewr canol cae Franck Tabanou o glwb St Etienne yn Ffrainc am £3m.
Fe gyfaddefodd asiant Tabanou fod y ddau glwb mewn trafodaethau i ddod a’r chwaraewr i Stadiwm y Liberty, ond nid oes cadarnhad swyddogol eto fod yno gytundeb wedi’i gwblhau.
Mae’r cyn-chwaraewr dan-21 Ffrainc wedi chwarae 30 o gemau dros St Etienne y tymor hwn gan sgorio tair gôl dros ei glwb.
Mae gan Tabanou brofiad o chwarae fel ymosodwr chwith yn ogystal ag yn yr amddiffyn, sydd yn codi amheuon unwaith yn rhagor y gallai Neil Taylor fod ar ei ffordd allan o’r clwb.
Gomis am fynd?
Ar y llaw arall mae dyfodol un o gyn-chwaraewyr St Etienne, Bafetimbi Gomis, dal yn y fantol.
Mae Crystal Palace, Newcastle ac Arsenal i gyd â diddordeb arwyddo ymosodwr Abertawe cyn i’r ffenestr drosglwyddo gau.
Yn ôl adroddiadau mae’r chwaraewr wedi bod yn anhapus oherwydd ei ddiffyg cyfleoedd ar y cae ers i Wilfired Bony gael ei ddewis fel y prif flaenwr.
Ond mae Garry Monk bellach yn gobeithio cadw Gomis fel un o’i opsiynau ymosodol, ar ôl i Bony adael am Manchester City yn y mis.