Mae chwaraewr amryddawn Morgannwg, Graham Wagg wedi dweud ei fod yn awyddus i ennill tlysau gyda’r sir, wedi iddo ymestyn ei gytundeb tan 2017.
Daeth llwyddiant personol i Wagg yn 2014, wrth iddo gipio 6-29, ei ffigurau bowlio gorau erioed, mewn gornest yn erbyn Swydd Surrey ar yr Oval yn y Bencampwriaeth, ac fe sgoriodd ei ail ganred i’r sir, a’i gyfanswm unigol gorau erioed (116*) yn erbyn Swydd Gaint yn ystod y tymor.
Mewn datganiad, dywedodd Wagg, sydd wedi bod gyda’r sir ers 2010, ei fod yn parhau’n uchelgeisiol, a’i fod am flasu rhagor o lwyddiant.
“Rwy wrth fy modd o gael arwyddo cytundeb newydd gyda Morgannwg. Mae fy nheulu wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ac mae’n le gwych i chwarae criced.
“Fe ddes i i Forgannwg i helpu’r clwb i ennill tlysau. Dydyn ni ddim wedi cyrraedd y fan honno eto, ond mae’r clwb yn uchelgeisiol ac yn awyddus i sicrhau llwyddiant, a dydy fy uchelgais i’n bersonol ddim wedi newid ers i fi gyrraedd.
“Mae gyda ni ambell wyneb newydd yn y clwb, gan gynnwys nifer o chwaraewyr ifainc sy’n dod drwodd a gyda Jacques Rudolph yn dychwelyd fel capten, alla i ddim aros i gael dechrau’r ymgyrch newydd.”
‘Hwb’
Mae Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris wedi dweud bod cadw Graham Wagg yn hwb i’r sir.
Mewn datganiad, dywedodd: “Mae Graham wedi sefydlu ei le fel chwaraewr yn y tîm cyntaf ac fe ddangosodd ei gyfraniadau allweddol gyda’r bat a’r bêl y llynedd ei fod yn bwysig i’r tîm.
“Rydym yn falch o fod wedi sicrhau ei wasanaeth ac mae ymrwymiad Graham i’n hachos ni yn hwb amserol wrth i’n paratoadau ar gyfer y tymor newydd gynyddu yn ystod yr wythnosau nesaf.”