Rodney Parade
Mae’r Dreigiau wedi cadarnhau y bydd eu gêm nhw yn erbyn y Gleision yng Nghwpan Her Ewrop ar benwythnos 3/4/5 Ebrill yn cael ei chwarae yn Rodney Parade.

Roedd sôn yn gynharach yn yr wythnos y gallai’r gêm gael ei symud i Stadiwm y Mileniwm oherwydd y galw tebygol am docynnau ar gyfer y gêm fawr.

Ond fe gadarnhaodd y rhanbarth heddiw y byddan nhw’n chwarae’r gêm yng Nghasnewydd er mwyn gwneud y mwyaf o’r fantais o chwarae gartref.

Penderfyniad unfrydol

Ar ôl ennill eu grŵp yng Nghwpan Her Ewrop fe sicrhaodd y Dreigiau y byddan nhw’n chwarae gartref yn rownd yr wyth olaf, cyn darganfod mai Gleision Caerdydd fyddai eu gwrthwynebwyr.

Ac er bod disgwyl y bydd galw mawr am docynnau wrth i ddau o ranbarthau Cymru herio ei gilydd yn Ewrop, mae’r Dreigiau am geisio manteisio ar eu cefnogaeth gartref.

“Rydw i wrth fy modd yn cyhoeddi y byddwn ni’n cynnal y gêm yn Rodney Parade,” meddai cadeirydd y Dreigiau Martyn Hazell.

“Ar ôl tipyn o sôn fe wnaethon ni, fel bwrdd, benderfyniad unfrydol i chwarae ar ein maes cartref.

“Mae’r chwaraewyr wedi gweithio’n galed i sicrhau mantais gartref felly dyw e ddim yn gwneud synnwyr i daflu hynny bant wrth chwarae ar faes niwtral.

“Rydw i’n credu y bydd hi’n achlysur gwych i’w gynnal yng Nghasnewydd ar ein maes ein hunain gyda chefnogaeth swnllyd ein cefnogwyr ni.”