Gylfi Sigurdsson
Mae Abertawe wedi penderfynu peidio â gwneud cais i apelio cerdyn coch Gylfi Sigurdsson.

Cafodd y chwaraewr canol cae ei anfon o’r cae yn ystod y gêm yng Nghwpan FA Lloegr yn erbyn Blackburn prynhawn Sadwrn.

Fe gollodd yr Elyrch y gêm o 3-1, gyda Sigurdsson yn derbyn y garden goch wedi’i dacl hwyr ar Chris Taylor.

Cerdyn melyn?

Er i reolwr Abertawe Garry Monk fynnu mai cerdyn melyn yn unig y dylai Sigurdsson fod wedi’i dderbyn, mae’n ymddangos ei fod wedi penderfynu nad oes pwrpas apelio gan ei bod hi’n annhebygol y caiff y penderfyniad ei wyrdroi.

Mi fydd y chwaraewr canol cae yn methu tair gêm nesaf yr Elyrch yn yr Uwch Gynghrair yn erbyn Southampton, Sunderland a West Brom.

Ni fydd Abertawe yn apelio cerdyn coch Kyle Bartley chwaith wedi i’r amddiffynnwr gael ei anfon o’r cae yn erbyn Blackburn, ond dim ond un gêm y bydd e’n methu.