Leigh Halfpenny
Sgoriodd Leigh Halfpenny 13 o bwyntiau dros Toulon gyda thair cic gosb a dau drosiad wrth sicrhau buddugoliaeth gyfforddus dros ben o 3-26 yn erbyn y Scarlets brynhawn Sadwrn.
Mae’r Ffrancwyr bellach drwyddo i rownd wyth olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop ble byddan nhw’n wynebu Wasps gartref.
George North gafodd unig gais Northampton mewn perfformiad siomedig dros ben wrth iddyn nhw golli gartref 8-32 yn erbyn Racing Metro.
Chwaraeodd Jamie Roberts a Luke Charteris gêm lawn i’r gwŷr o Baris, gyda Roberts yn sgorio’r cais olaf i’r ymwelwyr.
Mae’r ddau dîm drwyddo i rownd yr wyth olaf fodd bynnag, gyda Northampton yn teithio i Clermont a Racing Metro yn croesawu Saracens.
Chwaraeodd y clo Bradley Davies gêm lawn i Wasps ar brynhawn Sadwrn wrth iddyn nhw sicrhau gêm gyfartal glos o 20-20 gartref i Leinster, canlyniad oedd yn ddigon i’w rhoi nhw yn yr wyth olaf.
Cafodd y canolwr Jonathan Davies gêm lawn i Clermont hefyd wrth iddyn nhw drechu Saracens o 18-6.
Ac fe chwaraeodd Paul James a Dominic Day eu rhan ym muddugoliaeth Caerfaddon o 20-15 yn erbyn Glasgow, canlyniad sydd wedi sicrhau gêm oddi cartref yn Leinster yn rownd yr wyth olaf.
Cwpan Her
Er i’r mewnwr Rob Lewis sgorio cais dros Gymry Llundain yn erbyn Lyon nid oedd ei ymdrechion ef a James Lewis yn ddigon i atal colled arall i’r Alltudion o 12-17, sydd nawr wedi colli 21 gêm yn olynol.
Derbyniodd James Hook gerdyn melyn i Gaerloyw yn erbyn Brive, ond fe sicrhaodd ei 11 pwynt allweddol ef fuddugoliaeth allweddol oddi cartref o 31-20.
Mae Caerloyw bellach drwyddo i rownd wyth olaf y gystadleuaeth, ble byddan nhw’n croesawu Connacht.
Ac fe ymddangosodd Phil Dollman dros Gaerwysg yn eu buddugoliaeth swmpus yn erbyn Bayonne o 45-3, canlyniad sicrhaodd le yn yr wyth olaf yn erbyn Newcastle i’w dîm.
Seren yr wythnos – Leigh Halfpenny. Ei drosiadau wedi creu bwlch enfawr rhwng y Scarlets a Toulon gan olygu bod yr ymwelwyr yn gallu ymlacio ac arafu’r gêm. Amddiffyn cryf i beidio ildio cais.
Siom yr wythnos – Rob Lewis a James Lewis. Er i Rob Lewis sgorio cais, colled arall i Gymry Llundain. Mae pethau’n edrych yn go ddrwg i’r Alltudion.