Robson-Kanu (chwith) a Bale (dde) wedi sgorio y penwythnos yma (llun: CBDC)
Cipiodd Gareth Bale fuddugoliaeth hwyr i Real Madrid gyda chic o’r smotyn wrth iddyn nhw ennill gêm llawn drama yn erbyn Cordoba.

Roedd y sgôr yn 1-1 wrth i’r gêm gyrraedd y deng munud olaf, ond yna fe gafodd Ronaldo gerdyn coch am gicio un o’i wrthwynebwyr gyda chamerâu hefyd yn ei ddal yn taro chwaraewyr Cordoba yn ystod y gêm.

Yn ffodus i Real fe enillon nhw gic o’r smotyn gyda munud i fynd, ac fe blannodd Bale y bêl i’r rhwyd i sicrhau tri phwynt i Los Blancos.

Yng Nghwpan FA Lloegr fe gipiodd Hal Robson-Kanu gôl hwyr hefyd i ennill y gêm i Reading ar ôl dod oddi ar y fainc – dechreuodd Chris Gunter y gêm wrth i’r Royals drechu Caerdydd ond daeth oddi ar y cae ar ôl 35 munud gydag anaf.

Fe chwaraeodd Aaron Ramsey 90 munud i Arsenal wrth iddyn nhw drechu Brighton 3-2 i gyrraedd y rownd nesaf, er iddo gael clec ar ddiwedd y gêm.

Prynhawn digon siomedig oedd hi i Abertawe yng Nghwpan FA, ond roedd yr unig Gymro ar y cae yn dathlu ar y diwedd – cafodd Adam Henley gêm dda i Blackburn wrth iddyn nhw drechu’r Elyrch 3-1.

Cipiodd Andy King a Chaerlŷr fuddugoliaeth annisgwyl o 2-1 yn erbyn Tottenham diolch i ddwy gôl hwyr.

Chwaraeodd Joe Allen am y tro cyntaf ers dros fis i Lerpwl yn erbyn Bolton, ac fe gafodd 67 munud ar y cae wrth i’w dîm gael canlyniad ddi-sgôr.

Chwaraeodd Wayne Hennessey a Joe Ledley gemau llawn i Crystal Palace wrth iddyn nhw gipio buddugoliaeth o 3-2 yn Southampton i gyrraedd y rownd nesaf.

A Boaz Myhill oedd yn y gôl i West Brom wrth iddyn nhw guro David Cotterill a Birmingham o 2-1, ond fe gafodd Myhill ei eilyddio ar ôl awr wedi iddo frifo ei law.

Y gweddill

Dim ond dwy gêm yn y Bencampwriaeth oedd yn cynnwys Cymry’r penwythnos hwn, a hynny oherwydd gemau Cwpan yr FA.

Fe gollodd Emyr Huws a Wigan gartref o 1-0 yn erbyn Joel Lynch a Huddersfield, ac er gwaethaf ymdrechion Dave Edwards a Wolves di-sgôr oedd eu gêm nhw yn erbyn Simon Church, Morgan Fox a Charlton.

Yn yr Alban fe arhosodd Celtic ar frig y gynghrair gyda buddugoliaeth o 1-0 dros Ross County, ac Adam Matthews yn cael gêm lawn unwaith eto.

Yng Nghynghrair Un fe welodd Elliott Hewitt gerdyn coch am dacl flêr tu hwnt wrth i’w dîm ef Colchester ennill 2-0 yn erbyn Neal Eardley a Leyton Orient.

Ac yng ngemau eraill y gynghrair fe chwaraeodd Joe Walsh, Gwion Edwards, James Wilson a Lewin Nyatanga.

Seren yr wythnos – Hal Robson-Kanu. Ergyd hyfryd i ennill y gêm i Reading.

Siom yr wythnos – Elliott Hewitt. Ei dîm yn ennill, ond cerdyn coch haeddiannol iddo am dacl flêr tu hwnt.