Guido Burgstaller
Mae Caerdydd wedi cadarnhau heddiw eu bod wedi diddymu cytundeb y chwaraewr canol cae o Awstria, Guido Burgstaller, ar ôl i’r chwaraewr a’r clwb ddod i ddealltwriaeth.
Burgstaller yw’r trydydd chwaraewr i adael Caerdydd o fewn tridiau, ar ôl i’r clwb adael i Kim Bo-Kuyng a John Brayford fynd hefyd.
Ond mae’r clwb bellach wedi cadarnhau yn swyddogol eu bod wedi arwyddo’r cefnwr Lee Peltier o Huddersfield.
Mwy yn mynd?
Mewn datganiad i’w gwefan, fe ddiolchodd Caerdydd i Burgstaller am ei gyfraniad gan ei ddymuno’n dda ar gyfer y dyfodol.
Cafodd Burgstaller ei arwyddo gan y cyn-reolwr Ole Gunnar Solskjaer dros yr haf gan chwarae dim ond tair gêm dros yr Adar Gleision.
Mae’n debyg hefyd y bydd Adam Le Fondre yn gadael Caerdydd er mwyn ymuno â Bolton Wanderers ar fenthyg.
Mae disgwyl i’r ymosodwr, sydd dim ond wedi sgorio tair gôl dros y clwb, ymuno â charfan Neil Lennon dros y dyddiau nesaf.