Mae cyn-ymosodwr Lerpwl, Robbie Fowler wedi cyhuddo rheolwr Abertawe, Garry Monk o “amharchu” Cwpan yr FA, ar ôl i’r Elyrch golli o 3-1 yn erbyn Blackburn ar Barc Ewood ddoe.
Penderfynodd Monk wneud nifer sylweddol o newidiadau i’r tîm a gollodd o 5-0 yn erbyn Chelsea ar y Liberty yn yr Uwch Gynghrair ddydd Sadwrn diwethaf.
Roedd y newidiadau’n cynnwys partneriaeth hollol newydd yng nghanol yr amddiffyn wrth i Kyle Bartley a Jordi Amat ddisodli’r capten Ashley Williams, sydd wedi anafu ei ysgwydd, a Federico Fernandez.
Dim ond saith munud barodd Bartley cyn cael ei anfon o’r cae am dacl flêr ar Josh King yn ymyl y cwrt cosbi.
Aeth yr Elyrch ar y blaen wedi 21 munud o ganlyniad i ergyd o bell gan Gylfi Sigurdsson.
Ond gwnaeth Chris Taylor unioni’r sgôr ddwy funud yn ddiweddarach.
Aeth y tîm cartref ar y blaen ar ôl 78 munud wrth i gyn-ymosodwr Caerdydd, Rudy Gestede rwydo.
Gyda munud i fynd, gwnaeth Blackburn ymestyn eu mantais gyda gôl gan un arall o gyn-chwaraewyr Caerdydd, Craig Conway.
Roedd yr Elyrch i lawr i naw dyn cyn y chwiban olaf, wrth i Sigurdsson weld y cerdyn coch am dacl flêr yn ystod yr amser a ganiateir am anafiadau.
Ar raglen Match of the Day, dywedodd y dadansoddwr Robbie Fowler fod Garry Monk wedi “amharchu Cwpan yr FA”.
“Roedden nhw’n colli o 4-0 yn gynnar iawn yn erbyn Chelsea a cholli wnaethon nhw yn y pen draw.
“Doedd dim gêm ganddyn nhw yng nghanol yr wythnos, felly roedd yn gyfle i Abertawe fynd allan gyda thîm cryf ac adennill ychydig o hyder, wrth chwarae yn erbyn Blackburn sydd ddim wedi bod yn dda iawn eu hunain.
“Mae Abertawe’n dîm da, ond dydyn nhw ddim yn mynd i gyrraedd y llefydd ar gyfer Cynghrair y Pencampwyr.
“Roedd hwn yn gyfle i Abertawe fynd yn bell yn y gwpan, ond mae Garry Monk wedi amharchu’r gystadleuaeth hon.”
Mae’r clwb wedi gwrthod gwneud sylw.