Mae’r cwmni technoleg Apple wedi torri’r record byd am yr elw chwarterol mwyaf erioed.

Cyhoeddodd y cwmni mai $18 biliwn oedd eu helw yn y chwarter diwethaf, sy’n cyfateb i £11.9 biliwn.

Mae gwerthiant 74.5 miliwn o iPhones wedi cyfrannu at y record newydd, sy’n curo record flaenorol ExxonMobil yn 2012.

Cododd refeniw Apple o 30% i $74.6 biliwn (£49.2 biliwn) yn ystod y chwarter, sy’n sylweddol uwch na’r un chwarter y llynedd.

Dywedodd prif weithredwr Apple, Tim Cook fod gwerthiant yr iPhone 6 a’r iPhone 6 Plus wedi cyfrannu’n helaeth at lwyddiant ariannol y cwmni.

“Hoffem ddiolch i’n cwsmeriaid am chwarter anhygoel, a welodd y galw am gynnyrch Apple yn codi i’r lefel uchaf erioed.”

Dywedodd y byddai’r canlyniadau hyd yn oed yn well oni bai am effaith y ddoler gref ar werthiant dramor.

Gwerthodd y cwmni 21.4 miliwn iPad yn ystod y chwarter, ond roedd hynny 22% yn is na’r un chwarter y llynedd.

Ond gyda phrisiau’n gostwng, fe allai olygu bod poblogrwydd y cynnyrch hwnnw’n codi unwaith eto.

Mae lle i gredu bod cynnyrch Apple hefyd yn gwerthu’n well yn Tsieina na chynnyrch unrhyw gwmni arall yn y byd, ac mae eu poblogrwydd hefyd yn cynyddu ym Mrasil a Singapore.