Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi rhybuddio cleifion i feddwl yn ofalus cyn mynd i un o dair adran achosion brys oherwydd pwysau cynyddol ar staff.
Mae’r adrannau yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam i gyd yn brysurach nag arfer.
Dywed y Bwrdd Iechyd y dylai cleifion fynd i’r ysbyty “dim ond os ydynt yn ddifrifol wael neu os oes ganddynt anaf difrifol a bod eu bywyd mewn perygl”.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn atgoffa cleifion bod gwybodaeth ar gael am Ymgyrch Dewis Doeth y Gwasanaeth Iechyd ynghylch pryd i fynd i adrannau achosion brys.
Dylai cleifion sydd â salwch nad yw’n ddifrifol ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 neu feddyg teulu y tu allan i oriau swyddfa ar 0300 123 55 66.
Dim ond mewn argyfwng y dylid ffonio 999, meddai’r Bwrdd.