Mae prif ymchwilydd Indonesia wedi dweud nad oes unrhyw arwydd bod yr awyren AirAsia, wnaeth blymio i’r môr gan ladd 162 o bobol, wedi cael ei difrodi’n fwriadol.
Mae data o flwch du’r awyren wedi rhoi darlun cliriach i’r ymchwilydd, Tatang Kurniadi, o’r hyn ddigwyddodd cyn i’r awyren ddisgyn.
Fe ddiflannodd yr awyren o’r radar wrth iddi deithio o Surabaya yn Indonesia i Singapore ar 28 Rhagfyr yn ystod tywydd stormus.
Ni chafodd unrhyw adroddiadau o bryder neu ymosodiadau brawychol eu derbyn.
Dywedodd Tatang Kurniadi bod disgwyl adroddiad rhagarweiniol ar y ddamwain gael ei gyhoeddi’r wythnos nesaf.