Ras MotoGP
Fe fydd ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal ym mis Mawrth i ddatblygiad trac rasio newydd yng Nglyn Ebwy.
Roedd disgwyl i Gylchffordd Cymru gynnal y MotoGP y flwyddyn nesaf.
Dylai’r gwaith o adeiladu’r trac gwerth £315 miliwn fod wedi dechrau fis Chwefror diwethaf, ond fe fu nifer o drafferthion wrth i’r datblygwyr geisio caniatâd cynllunio.
Cafodd cytundeb pum mlynedd ei arwyddo’r llynedd er mwyn sicrhau bod y MotoGP yn dod i Barc Rasa, ond fe fu’n rhaid trosglwyddo’r digwyddiad eleni i Donnington Park.
Mae Cylchffordd Cymru’n cefnogi’r ymchwiliad cyhoeddus.
Mewn datganiad, dywedodd y prif weithredwr, Michael Carrick: “Mae’r broses gynllunio yn un hir ac fe fyddwn yn parhau i weithio â’r corff cynllunio i sicrhau bod y gwaith ar y safle’n dechrau cyn gynted â phosib yn 2015.”
Ychwanegodd ei bod yn fwriad cynnal y MotoGP o hyd, a bod y datblygiad yn un pwysig i adfywio Blaenau Gwent.
“Mae’n hanfodol ein bod ni’n sicrhau bod pob manylyn yn cael ei ystyried yn y broses gynllunio cyn bod y gwaith adeiladu’n gallu dechrau.”
Yn dilyn yr ymchwiliad cyhoeddus, fe allai’r datblygwyr wynebu arolwg barnwrol, ac fe allai hynny achosi rhagor o oedi cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau.