Fe fydd yr A438 ger Y Drenewydd ynghau tan tua 3:00 y prynhawn yma, wrth i ymgyrch i geisio tynnu lori allan o gamlas barhau.

Fe wnaeth y lori, oedd yn cario tua 28 tunnell o fwyd anifeiliaid, droi ar ei hochr i mewn i’r gamlas ddydd Llun.

Mae angen craen arbenigol i’w symud, meddai llefarydd o Heddlu Dyfed Powys, ac mae disgwyl i’r ffordd fod ar gau tan o leiaf 3 y prynhawn ma.

Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod ar y safle yn ceisio sicrhau nad yw’r dŵr yn cael ei effeithio’n ormodol.