Mae Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb wedi dweud ei fod yn barod i drafod y posibilrwydd o sefydlu canolfannau i drin pobol feddw heb fod angen iddyn nhw fynd i adrannau damweiniau ac achosion brys.

Dywedodd yn ystod sesiwn ar faterion Cymreig y byddai’n trafod y mater â gweinidogion Llywodraeth Prydain.

Yn ôl Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Abertawe, Geraint Davies, mae cynllun tebyg wedi llwyddo yn Abertawe.

Dywedodd fod y cynllun ar Stryd y Gwynt wedi lleihau’r pwysau gwaith ar yr heddlu a’r gwasanaeth ambiwlans yn y ddinas.

Dywedodd Stephen Crabb y byddai’n cyfeirio at brosiect Wind Street wrth godi’r mater â Llywodraeth Prydain.