Mae Ysgrifennydd Cymru wedi galw ar weinidogion Llywodraeth Prydain i annog pobol i yfed llaeth o Gymru.

Yn ystod sesiwn ar faterion Cymreig yn San Steffan heddiw, rhybuddiodd Stephen Crabb fod y diwydiant llaeth yn wynebu argyfwng.

Dywedodd ei fod yn cefnogi cynlluniau i gefnogi labelu cynnyrch lleol.

Roedd Crabb  yn ymateb i alwad gan yr Aelod Seneddol Ceidwadol, Michael Fabricant i gynyddu’r ymdrechion i helpu’r diwydiant llaeth yng Nghymru.

Dywedodd Fabricant fod nifer o berchnogion siopau preifat trwy wledydd Prydain yn gwerthu llaeth o Gymru oedd wedi’i labelu’n glir â’r Ddraig Goch.

Wrth ymateb i Fabricant, dywedodd Stephen Crabb: “Cynnyrch Cymru yw’r cynnyrch gorau yn y byd a phan gaiff ei labelu, mae’n rhoi arwydd cryf i brynwyr y maen nhw’n ymateb iddo ac fe fu honno’n un o’r ffyrdd yr ydyn ni wedi gallu rhoi hwb i allforion o ran cynnyrch amaethyddol Cymru yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.”

Mae Aelodau Seneddol eisoes wedi galw am amddiffyn ffermwyr llaeth wrth i brisiau llaeth ostwng.

Mae’r Pwyllgor Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi annog Llywodraeth Prydain i ymestyn rôl Beirniad y Cod Bwydydd fel ei fod yn cynnwys gwarchod ffermwyr llaeth.

Dywedodd arweinydd seneddol Plaid Cymru, Elfyn Llwyd y dylid rhoi “rhagor o ddannedd” i’r beirniad fel bod modd mynd i’r afael â phrisiau annheg.