Mae Eurostar wedi dweud ei fod yn bwriadu cynnal gwasanaeth llawn heddiw ond mae Eurotunnel wedi  rhybuddio y gallai’r oedi barhau i deithwyr.

Bu oedi i filoedd o deithwyr dros y penwythnos ar ôl i lori fynd ar dân ar drên yn Nhwnnel y Sianel ddydd Sadwrn, a chafodd 11 o drenau’r gwasanaeth eu canslo ddoe oherwydd nam trydanol.

Roedd Eurotunnel, sy’n gyfrifol am Dwnnel y Sianel, wedi bod yn gwneud gwaith peirianyddol dros nos er mwyn ceisio gwella’r gwasanaeth. Dim ond un o’r ddau dwnnel oedd yn weithredol ar ôl y tân.