Fe ddylai tystion neu ddioddefwyr troseddau honedig gael rhybudd os yw bargyfreithwyr yn bwriadu eu holi ynglŷn â’u hanes rhywiol neu ymddygiad gwael yn y gorffennol, yn ôl cynlluniau newydd.
Mae Alison Saunders, y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus (DPP) wedi cyflwyno canllawiau newydd i erlynwyr ynglŷn â sut i ddelio gyda thystion neu ddioddefwyr honedig sy’n rhoi tystiolaeth mewn achosion llys.
Mae’r canllawiau yn dilyn nifer o achosion proffil uchel lle’r oedd tystion neu ddioddefwyr wedi dioddef yn ystod y broses, gan gynnwys y gogyddes Nigella Lawson a fu’n rhoi tystiolaeth yn achos dwy o gynorthwywyr personol ei chyn-wr Charles Saatchi. Cafodd ei holi am ei defnydd o gocên a’i pherthynas gyda Saatchi yn ystod yr achos llys.
Dywed y DPP y bydd y canllawiau yn rhoi hyder i erlynwyr wrth ddelio gyda dioddefwyr a thystion, a helpu tystion i ddeall beth i’w ddisgwyl yn ystod achos llys.