Llys y Goron Yr Wyddgrug
Fe fydd dyn 25 oed yn mynd gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug heddiw wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio ar ôl ymosodiad yn archfarchnad Tesco yn yr Wyddgrug wythnos diwethaf.
Roedd Zachary Peter Davies o’r Wyddgrug, wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Wrecsam ddydd Gwener a chafodd ei gadw yn y ddalfa.
Ni wnaeth gais am fechnïaeth.
Cafodd Sarandev Brahanbra, 24 oed o Swydd Efrog, anafiadau all newid ei fywyd yn yr ymosodiad arno ddydd Mercher diwethaf.