Mae grŵp Islamaidd yn Saudi Arabia wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu dwyn achos llys yn erbyn y cylchgrawn Ffrengig Charlie Hebdo ynghylch y cartŵn dadleuol a arweiniodd at ymosodiadau brawychol ym Mharis.

Yn ôl y Sefydliad Cydweithredu Islamaidd (OIC), roedd penderfyniad y cylchgrawn i gyhoeddi’r cartŵn dychanol o’r proffwyd Muhammad yn “ynfyd”.

Fe fu nifer o brotestiadau ffyrnig yn erbyn y cartŵn yn Niger, Pacistan ac Algeria, tra bod Iran wedi gwahardd papur newydd yn sgil pennawd oedd yn datgan cefnogaeth i Charlie Hebdo.

Dywedodd cyn-Weinidog Diwylliant Saudi Arabia, Iyad Madani, sydd bellach yn bennaeth y Sefydliad Cydweithredu Islamaidd, fod cyhoeddi rhifyn newydd o Charlie Hebdo yn “gam ynfyd sy’n gofyn am fesurau cyfreithiol”.

“Mae OIC yn astudio cyfreithiau Ewrop a Ffrainc a chamau eraill sydd ar gael i allu dwyn achos cyfreithiol yn erbyn Charlie Hebdo.

“Os yw cyfreithiau Ffrainc yn caniatâu i ni gymryd camau cyfreithiol yn erbyn Charlie Hebdo, ni fydd OIC yn oedi cyn erlyn y cylchgrawn Ffrengig.”

Ar ei gyfrif Twitter personol, ychwanegodd Madani fod y cartwnau diweddar “wedi niweidio teimladau Moslemiaid ar draws y byd”.