Mae adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi yn dangos bod Cyngor Caerdydd yn gwario llai ar weithwyr o asiantaethau allanol o’i gymharu â’r llynedd.
Yn ôl yr adroddiad, gwariodd y Cyngor £357,000 ar staff o asiantaethau ar gyfer adran yr amgylchedd fis Hydref y llynedd.
Dywed yr adroddiad fod “angen” gwario’r arian a bod y staff yn cynnig “gwerth am arian”.
Mae’r Cyngor yn ystyried nifer o gamau eraill er mwyn lleihau ei gostau yn y cyfnod nesaf, gan gynnwys cwtogi ar gostau teithio staff.