David Cameron a Barack Obama
Mae’r Prif Weinidog David Cameron yn teithio i Washington heddiw ar gyfer trafodaethau gyda’r Arlywydd Obama.

Mae’r ddau wedi rhybuddio bod sicrhau ffyniant economaidd yn hanfodol yn y frwydr yn erbyn brawychiaeth.

Mewn trafodaethau ffurfiol ynglŷn â diogelwch ar y we a mesurau gwrth-frawychiaeth yn y Tŷ Gwyn yfory, mae disgwyl i’r ymosodiadau ym Mharis hawlio’r sylw.

Cafodd 17 o bobl eu lladd yn yr ymosodiadau wythnos ddiwethaf.

Fe fydd David Cameron, sydd ar ymweliad deuddydd a’r Unol Daleithiau, bwyso i sicrhau bod cwmnïau gwefannau cymdeithasol, fel Facebook a Twitter, yn cydweithredu gydag asiantaethau cudd-wybodaeth yn y frwydr yn erbyn brawychiaeth.