Mae mynediad i i wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru wedi “gwella’n arw” o ganlyniad i Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, cyhoeddodd un o bwyllgorau’r Cynulliad heddiw.

Clywodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei bod yn haws cael asesiadau iechyd meddwl sylfaenol o ganlyniad i’r Mesur a bod mwy o bobol yn gallu cael gwasanaeth eirioli iechyd meddwl annibynnol.

Er hyn, mae tystiolaeth i brofi bod dryswch o hyd ymhlith cleifion a darparwyr gwasanaethau iechyd am y drefn hunangyfeirio ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn pryderu am effaith y Mesur ar wasanaethau iechyd meddwl i blant a phobol ifanc ac yn cwestiynu’r modd y caiff deddfwriaeth ei hasesu o ran gwerth am arian.

Galw mawr am driniaeth

Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru wedi gwella’n arw ers i’r Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) ddod i rym yn 2012.

“Fodd bynnag, mae’r galw am wasanaethau iechyd meddwl yn uchel, ac os yw amcanion y Mesur i’w cyflawni’n llawn, mae rhagor o waith i’w wneud i sicrhau bod digon o wasanaethau ar gael.

Argymhellion

Gwnaeth y Pwyllgor ddeg o argymhellion i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:

• Bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio gyda’r byrddau iechyd a’r trydydd sector fel mater o flaenoriaeth i wella’r wybodaeth a’r modd y caiff ei rhoi i gleifion a darparwyr iechyd meddwl sylfaenol am hawliau pobl i’w cyfeirio’u hunain i gael eu hailasesu o dan Ran 3 o’r Mesur.

• Bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd sicrhau bod yr hyfforddiant a’r wybodaeth briodol ar gael i staff yn y lleoliadau gofal iechyd perthnasol.

• Bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ysgrifennu at y Pwyllgor cyn gynted ag y bydd y cynllun ar gyfer gwella Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed wedi’i gyhoeddi yn 2015