Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod yn trin digwyddiad yn siop Tesco’r Wyddgrug ddoe fel ymgais i lofruddio, a’u bod yn amau fod yr ymosodiad yn un hiliol.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r siop prynhawn dydd Mercher ar ôl adroddiadau bod dyn wedi ymosod ar ddyn arall a’i drywanu â chyllell.
Maen nhw bellach wedi cadarnhau fod dyn lleol 25 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymgais i lofruddio.
Roedd y siop ar gau drwy gydol dydd Mercher wrth i’r heddlu barhau â’u hymchwiliad, ond bellach mae’r archfarchnad a’r ffyrdd o gwmpas yr ardal wedi ailagor.
Ymosodiad ‘hiliol’
Un person, dyn 24 oed o Swydd Efrog, gafodd ei anafu yn yr ymosodiad, ac mae e bellach yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.
Yn ôl llygad dystion roedd y dyn gafodd ei anafu o dras Asiaidd, ac fe glywyd yr ymosodwr yn gweiddi “white power” wrth ymosod arno.
Fe gadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn credu bod yr ymosodiad wedi bod yn un hiliol.
“Am 1.40pm brynhawn ddoe roedd dyn 24 oed yn siopa yn y siop pan wnaeth dyn arall ymosod arno,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Alun Oldfield sydd yn arwain yr ymchwiliad.
“O ganlyniad i hyn cafodd y dyn anafiadau difrifol ond nid rhai bygwth bywyd ac aethpwyd ag ef i ysbyty lleol.
“Credir bod hwn yn ymosodiad hiliol ac fel rhan o’r ymchwiliad byddwn yn ceisio rheoli effaith hyn ar y gymuned er mwyn ceisio tawelu meddwl y cyhoedd.”
“Rwy’n deall bod storïau wedi bod yn ymddangos ar wefannau cyfryngau cymdeithasol ond ni fydd hyn yn ein helpu ni gyda’n hymchwiliad ac mae’n achosi trallod i deulu a ffrindiau’r dioddefwr. Felly hoffwn i’r cyhoedd fod yn ystyriol tra bydd ymchwilwyr yn siarad â thystion er mwyn canfod amgylchiadau llawn y digwyddiad hwn.”
“Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymdrin â’r mater fel ymgais i lofruddio ac os oeddech yn dyst i’r ymosodiad hwn yna gofynnir i chi ffonio’r Heddlu ar 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 a dyfynnu’r cyfeirnod S006316.”