Mae 91% o aelodau undeb athrawon UCAC wedi dweud fod ganddyn nhw ormod o lwyth gwaith, yn ôl ymchwil gafodd ei gyhoeddi heddiw.

Dangosodd y ffigyrau hefyd bod 16% o athrawon yn gweithio am dros 20 awr yn ychwanegol bob wythnos y tu allan i oriau ysgol, a bod 29% yn gweithio 15 i 20 awr ychwanegol.

Dywedodd yr undeb eu bod yn pryderu am gydbwysedd gwaith staff dysgu mewn ysgolion yng Nghymru a’u bod eisoes wedi anfon canlyniadau eu hadroddiad i’r Gweinidog Addysg Huw Lewis.

‘Straen mawr’

Roedd Adroddiad Materion Llwyth Gwaith UCAC yn seiliedig ar ganlyniadau holiadur gafodd ei gynnal ym mis Gorffennaf 2014 a thystiolaeth a gasglwyd yn ystod tymor yr Hydref 2014.

Yn ôl UCAC, mae’r canlyniadau yn dangos bod athrawon Cymru o dan straen mawr oherwydd llwyth gwaith gormodol a bod ysgolion yn methu cydymffurfio â’r gofynion statudol dros sicrhau cydbwysedd bywyd gwaith rhesymol i athrawon ac arweinwyr ysgol.

Dywedodd 68% o athrawon yn yr arolwg eu bod nhw’n ei chael hi’n anodd cael cydbwysedd bywyd gwaith, rhywbeth ddylai fod “yn bryder i Lywodraeth Cymru” yn ôl UCAC.

Y tri ffactor gafodd eu rhestru fel y prif rai oedd yn cyfrannu at lwyth gwaith athrawon oedd cynllunio, paratoi gwersi ac adnoddau, a marcio ac asesu ar gyfer dysgu.

Roedd athrawon hefyd yn gytûn mai’r tri ffactor hwnnw oedd yn cael yr effaith fwyaf ar godi safonau.

Ac fe ddywedodd dros 50% o athrawon bod trefn arolygu Estyn yn un o’r ffactorau oedd yn cael yr effaith leiaf ar wella’r safonau hynny.

Sefyllfa ‘anghynaladwy’

Yn ôl llefarydd UCAC, mae hyn yn dystiolaeth fod angen ailedrych ar batrymau gwaith athrawon yng Nghymru.

“Mae’n amlwg bod athrawon o’r farn bod llawer o bethau’n ymyrryd â’u gallu i ganolbwyntio ar y tasgau hynny sydd yn cael yr effaith fwyaf ar godi safonau,” meddai Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC.

“Mae’r dystiolaeth yn yr adroddiad yn codi cwestiynau difrifol am addysgu fel gyrfa yn wyneb y problemau hyn.

“Sut allwn barhau i ddenu graddedigion i’r proffesiwn? Sut mae cadw athrawon cydwybodol mewn swyddi addysgu llawn amser? Sut mae denu athrawon dosbarth i swyddi gyda chyfrifoldeb?

“Credwn fod y sefyllfa gyfredol yn un anghynaladwy gyda chymaint o anfodlonrwydd yn y proffesiwn oherwydd llwyth gwaith gormodol, diffyg morâl ofnadwy a diffyg statws a pharch at athrawon yn gyffredinol.”