Llys y Goron Caerdydd
Mae gofalwr mewn ysgol gynradd yng Nghaerdydd, a oedd wedi’i gyhuddo o fod a mwy na 650 o ddelweddau anweddus o blant yn ei feddiant, wedi osgoi dedfryd o garchar.
Yn Llys y Goron Caerdydd roedd Michael Pendry, 55, wedi cyfaddef i fod a 658 o luniau anweddus ar ei gyfrifiadur, ar ôl i’r heddlu eu darganfod yn ei gartref ger Ysgol Gynradd Ffordd Radnor.
Ond fe ddywedodd y barnwr yn yr achos, Huw Rees, na fyddai cyfnod yn y carchar yn ddedfryd ddigonol ac y byddai tair blynedd o wasanaeth cymunedol a gorchymyn i fynychu rhaglen driniaeth i droseddwyr rhyw yn fwy addas.
Cefndir
Dywedodd Michael Pendry wrth yr heddlu ei fod wedi edrych ar luniau anweddus o blant ers sawl blwyddyn ond nad oedd erioed wedi cyffwrdd mewn plentyn.
Nid oedd y lluniau oedd yn ei feddiant yn gysylltiedig â’r disgyblion yn yr ysgol lle’r oedd yn gweithio.
Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y barnwr fod y dyfarniad a roddwyd am ei helpu yn y tymor hir.
Esboniodd mai dedfryd o tua 12 mis o garchar fyddai wedi ei roi i Pendry fel arall, ac y byddai’n debygol o gael ei ryddhau ar ôl chwe mis.