Fritz-Joly Joachin yn y llys ym Mwlgaria
Mae’r awdurdodau ym Mwlgaria wedi dweud eu bod nhw wedi arestio dinesydd Ffrengig sydd â chysylltiadau posib gydag un o’r brodyr sydd dan amheuaeth o ymosodiad brawychol yn erbyn y cylchgrawn Charlie Hebdo.

Roedd dwy warant Ewropeaidd i arestio Fritz-Joly Joachin, 29,  gan gynnwys un am fod yn rhan o sefydliad troseddol gyda nod brawychol, yn ôl erlynwyr yn nhalaith ddeheuol Haskovo ym Mwlgaria.

Wrth siarad ar y sianel deledu Nova, dywedodd yr erlynydd Darina Slavova bod y warant yn nodi  cysylltiad posibl Joachin gydag un o ymosodwyr Paris, Cherif Kouachi.