Jonathan Edwards AS
Mae Plaid Cymru’n honni fod Llywodraeth Cymru wedi methu rhoi pwysau ar Lywodraeth San Steffan ar ddatganoli pwerau dros ffracio i Gymru.

Mae’n dilyn cwestiwn seneddol gan Jonathan Edwards, AS Plaid Cymru dros ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

Yn ôl Jonathan Edwards, nid yw’r Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd wedi gweithredu o gwbl i sicrhau’r un pwerau dros ffracio i Gymru.

Mae hynny er gwaetha’r ffaith y bydd yr Alban yn cael pwerau llawn dros drwyddedu ffracio fel sy’n cael ei argymell gan y Comisiwn Smith, sydd wedi cael cefnogaeth holl bleidiau San Steffan, yn sgil refferendwm annibyniaeth yr Alban.

Ychwanegodd Jonathan Edwards fod Plaid Cymru hefyd wedi gosod gwelliannau i’r Mesur Isadeiledd yn Senedd San Steffan y llynedd gyda’r bwriad o drosglwyddo’r pwerau hynny i Gymru, ond “gwrthododd Llafur bleidleisio o blaid.”

Mae nifer o wledydd yn Ewrop a sawl talaith yn yr Unol Daleithiau  wedi cyflwyno moratoriwm ar ffracio. Ar hyn o bryd, nid oes gan Gymru’r grym i wneud hynny gyda Llywodraeth San Steffan yn dal rheolaeth lwyr dros yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru o ran trwyddedu ffracio, meddai Plaid Cymru.

Dywedodd Jonathan Edwards AS: “O ystyried yr holl siarad am ymladd cornel Cymru ac y dylai Cymru gael yr un pwerau a’r Alban, mae hi’n anhygoel fod y blaid Lafur unwaith eto wedi profi mai eu motto yw ‘dweud nid gwneud’.

“Fel rhan o’r pecyn datganoli pwerau sydd wedi ei addo i bobl yn dilyn y refferendwm, bydd yr Alban nawr yn cael pwerau llawn dros gynllunio a thrwyddedu ffracio. Os yw’n ddigon da i’r Alban mae’n ddigon da i Gymru hefyd a dylem ni gael yr un pwerau heb oedi.

“Dylai Cymru gael pwerau llawn dros drwyddedu ffracio.”

‘Proses symlach’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Os yw pwerau trwyddedu olew a nwy ar y tir yn cael eu datganoli i’r Alban, nid oes unrhyw reswm pam na ddylai pwerau o’r fath gael eu datganoli i Gymru.

“Byddai datganoli pwerau dros roi caniatâd i bob prosiect ynni ac ynni seilwaith, ac eithrio ynni niwclear, yn ein galluogi i wireddu ein huchelgais i sefydlu un broses, symlach a thryloyw ar gyfer Cymru. “