Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu
Mae cyrff y pedwar person Iddewig gafodd eu lladd yn yr ymosodiad brawychol ar archfarchnad ym Mharis yr wythnos diwethaf wedi cyrraedd Israel ar gyfer angladd fydd yn cael ei gynnal yno heddiw.

Cafodd Yohan Cohen, Yoav Hattab, Francois-Michel Saada a Phillipe Braham eu llofruddio mewn ymosodiad ddydd Gwener, sydd wedi ysgwyd Ffrainc a’r gymuned Iddewig fwyaf yn Ewrop sydd yno.

Roedden nhw ymysg 17 o bobol gafodd eu lladd mewn cyfres o ymosodiadau gan eithafwyr Islamaidd ar brif ddinas Ffrainc.

Bydd Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, yn bresennol yn yr angladd ynghyd a ffigyrau cyhoeddus eraill, yn ôl adroddiadau.

Mewn datganiad ddydd Sul, dywedodd Benjamin Netanyahu fod cyrff y meirw wedi cael eu cludo i Israel ar gais eu teuluoedd.