Mark Carney, Llywodraethwr Banc Lloegr
Mae chwyddiant wedi gostwng i’w lefel isaf o 0.5% ym mis Rhagfyr, yn ôl ffigurau swyddogol heddiw.

Mae’r gostyngiad o dan 1% yn golygu y bydd yn rhaid i lywodraethwr Banc Lloegr, Mark Carney anfon llythyr o eglurhad at y Canghellor George Osborne gan mai targed y banc yw 2%.

Roedd ffigurau’r Swyddfa Ystadegau gwladol (ONS) yn dangos bod Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI), sy’n mesur chwyddiant, wedi gostwng i’w lefel isaf ers mis Mai 2000.

Mae chwyddiant wedi bod yn gostwng yn raddol wrth i brisiau bwyd a phetrol ostwng.

Roedd gostyngiad mewn biliau nwy a thrydan ym mis Rhagfyr hefyd wedi cyfrannu at y gostyngiad mewn CPI.

Fe fydd y gostyngiad yn lefel chwyddiant yn lleddfu’r pwysau ar gyllidebau cartrefi gan hefyd osgoi cynyddu cyfraddau llog am gyfnod.

Dywedodd David Cameron ar Twitter ei fod yn “newyddion da i deuluoedd.”