Mae adroddiadau bod dau berson wedi cael eu saethu’n farw mewn gwarchae newydd ym Mharis – wrth i’r ymgyrch i ddal y ddau frawd sy’n cael eu hamau o ymosodiad Charlie Hebdo ddwysau.
Mae Said a Cherif Kouachi wedi cael eu cornelu gan yr heddlu mewn adeilad yn nhref Dammartin-en-Goele, tua 25 milltir y tu allan i Baris, yn dilyn gwarchae y bore ma.
Yn y cyfamser, mae dau berson wedi cael eu saethu ac eraill wedi’i hanafu mewn ardal o ddwyrain Paris, Porte de Vincennes.
Y gred yw mai dyn o’r enw Amedy Coulibaly, 32, sydd y tu ôl i’r gwarchae a bod ganddo gysylltiad â’r brodyr Kouachi.
Roedd wedi cymryd tua phum person, gan gynnwys plant, yn wystlon yn archfarchnad Iddewig Hypercasher Vincennes ac wedi dweud wrth yr heddlu: “Rydych yn gwybod pwy ydw i.”
Apêl
Mae’r heddlu wedi rhyddhau llun o Amedy Coulibalya a’i bartner – yn ogystal a’i bartner Hayat Boumeddiene, 26 – ac yn credu ei fod hefyd yn yn gysylltiedig â digwyddiad lle cafodd plismones ei saethu yn Montrouge ddoe.