Y gwasanaethau brys ar safle'r ail ymosodiad yn Montrouge yn ne Paris
Mae’r heddlu’n trin digwyddiad ym Mharis lle cafodd plismones ei saethu’n farw fel ‘ymosodiad brawychol’, yn ôl adroddiadau.
Cafodd glanhawr stryd ei anafu’n ddifrifol yn yr ymosodiad wedi i ddyn saethu at y blismones wrth iddi archwilio gwrthdrawiad ar y ffordd ar gyrion y brifddinas.
Daw’r ymosodiad ddiwrnod yn unig ar ôl i 12 o bobol gael eu lladd gan dri dyn arfog yn swyddfa’r cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo.
Mae’r heddlu’n cynnal dau ymchwiliad i’r digwyddiadau, ac maen nhw’n chwilio am ddau frawd sy’n cael eu hamau o fod yn gyfrifol am yr ymosodiad ddoe, yn ogystal â’r unigolyn sy’n gyfrifol am yr ail ymosodiad heddiw.
Dau o’r tri sy’n cael eu hamau yw’r brodyr Said a Cherif Kouachi.
Yn ôl adroddiadau, cafodd y ddau eu gweld mewn Renault Clio mewn gorsaf betrol yn ardal Aisne i’r gogledd o Baris.
Credir i’r ddau ddwyn bwyd a phetrol o’r orsaf, ac mae lle i gredu hefyd fod ganddyn nhw arfau yn eu meddiant ar y pryd ac yn gwisgo mygydau.
Mae’r heddlu’n chwilio’r ardal leol.
Mae adroddiadau hefyd fod baneri Islamaidd wedi cael eu darganfod mewn car Citröen a gafodd ei adael ar ymyl y ffordd yn dilyn yr ymosodiad ar bencadlys Charlie Hebdo ddoe.